O! mor hyfryd yw'r meddyliau Fod yr amser hyny ar ddod; Y mae'r hiraeth sy'n fy nghalon Heb un terfyn iddo'n bod; Ni all yr holl greadigaeth eang, Na'i gogoniant o un rhyw, Lanw 'nghri, na llanw f'enaid, Na dim arall ond fy Nuw. Yno llenwir fy nymuniad, Er ei faint ac er ei gri, Fy holl wagter wneir i fynu, Gyda'r Duwdod - Un yn Dri; Mi gaf yfed o ffynnonau, Gwir ddedwyddwch, a'm dyfrhau A dadguddiad pur o fywyd, A llawenydd i barhau. Mi gaf glywed cydsain hyfryd Digrëedig Dri yn Un, Yn cyhoeddi heddwch nefol, Perffaith, wrthyf fi fy hun: Saint, seraphiaid, ac angylion, - Mewn rhyw gydsain bena' erioed, Gyda mi yri seinio'r anthem Am anfeidrol, ddwyfol glod.William Williams 1717-91
Tonau [8787D]: gwelir: Capten mawr ein hiechydwriaeth Llawen ydwyf fod dy hanfod Minau bryfyn gwael o'r ddaear Nid oes terfyn ar flynyddau |
O how delightful are the thoughts That this time is about to come; The longing that is in my heart is Without any ending for it to be; The whole vast creation cannot be, Nor its glory of any kind, Flooding my cry, nor flooding my soul, Nor anything else but my God. There to be fulfilled is my desire, For its privilege and for its cry, All my emptiness is to be made up, With the Godhead, ONE in THREE; I will get to drink from the wells, Of pure happiness, which water me, With a pure revelation of life, And joy to endure. I will get to hear a delightful harmony, The uncreated THREE in ONE, Announcing perfect, heavenly Peace, to me myself; Saints, Seraphim, and Angels, In some most ancient ever harmony With me sounding the Anthem, Of infinite, divine praise.tr. 2019 Richard B Gillion |
|